2019
Multi-channel Installation
@ g39 3rd May - 13th July
Awards:
Arts Council Wales Production Award
g39 Press Release:
"[W]e are showing a project by Tom Cardew, who has worked with g39 over the last year to develop a new installation. In a space that looks like a gallery store, a series of linked narratives are played by computer generated avatars. Dishevelled and not quite of now, they are ghosts. Their voices and stories stand out as distinctly human, as they go off on tangents, stumble over words and forget what they are discussing, drifting from sense to nonsense. The group gabble on, seemingly disconnected and separate, before starting to sync up as a choir.
Using digital techniques, comedic performance, song and an elaborately disorienting installation, Tom’s work at g39 explores modes of communication and the levels of understanding - and mis-understanding - that occur on social media platforms. The work is presented in a space that is usually not open to the public, leading you through store cupboards and out of date technology, projector screens and cardboard boxes. This passage leads you to what looks like the reverse of a wooden theatre stage set before opening out into a room full of screens.
The same CGI face peers out from each screen, but seems to be unaware of you, or of the other identical faces as the multitude of tired, ventriloquised masculine avatars mumble, shout and rant trying to get a word in edgeways.
The artist is particularly interested in the evolving manner of social engagement and communication via online social media platforms, particularly in terms of the fragmented and chronically distracted forms of communication of memes, tweets, stories, posts and other social media prosumer avenues.
Eventually each voice finds accord, and they harmonise into the parts of the same song, a shared voice in a familiar pattern of chorus and verse. Cardew takes technologies that seem very artificial and distant and finds them compelling, finds something very human and vulnerable about a deep rooted need to connect."
MOOG's Respectful Edit of Diana Ross' Love Hangover instrumental stems produced by Tim Hamper
Installation curated / created in collaboration with Anthony Shapland, Aled Simons & g39
Technical support by g39
Programme used: Multi-screener by Zach Poff
This show followed an ACW R&D project mentored by Stefhan Caddick
Rydym yn dangos prosiect gan Tom Cardew, sydd wedi gweithio gyda g39 dros y flwyddyn ddiweddaf i ddatblygu gosodiad newydd. Mewn lleoliad sy'n edrych fel storfa oriel, chwaraeir cyfres o naratifau cysylltiedig gan rithffurfiau sydd wedi'u cynhyrchu gan gyfrifiadur. Yn anniben ac nid yn hollol o'r byd presennol, ysbrydion ydynt. Mae eu lleisiau a'u straeon yn tynnu sylw fel rhai sydd yn bendant yn ddynol, wrth iddynt fynd ar gyfeiliorn, baglu dros eiriau ac anghofio'r hyn maent yn ei drafod, yn llithro o synnwyr i lol. Clebra'r grwp ymlaen, wedi'u datgysylltu ac ar wahan yn ol pob golwg, cyn dechrau cydamseru fel cor.
Rwy'n hoff o'r syniad o blygu rhywbeth sy'n hollol gyffredin, fel mynegiadau coll, i greu rhywbeth mor ecstatig ac aruchel a chan gorawl.
Gan ddefnyddio technolegau digidol, perfformiad comediaidd, can, a gosodiad sy'n peri penbleth fawr, mae gwaith Tom yn g39 yn archwilio dulliau cyfathrebu a lefelau dealltwriaeth – a chamddealltwriaeth – sy'n digwydd ar blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol. Cyflwynir y gwaith mewn gofod nad yw ar agor i'r cyhoedd fel arfer, gan eich tywys drwy gypyrddau storio a thechnoleg sydd wedi dyddio, sgriniau taflunio a bocsys cardfwrdd. Mae'r coridor hwn yn eich arwain at yr hyn sy'n edrych fel cefn theatr bren cyn agor allan i ystafell yn llawn sgriniau.
Mae'r un wyneb o ddelwedd sydd wedi'i chynhyrchu a chyfrifiadur (CGI) yn syllu allan o bob sgrin, ond mae'n ymddangos fel pe na bai’n ymwybodol ohonoch, neu'r wynebau unfath eraill, wrth i'r dorf o rithffurfiau gwrywaidd blinedig daflu eu lleisiau, gan fwmian, gweiddi ac arthio er mwyn cael gair i mewn.
Gwelaf fod galw gwirioneddol i gelf siarad drwy iaith fodern: sut mae pobl a diwylliant yn ymateb i ddatblygiadau'r cyfryngau a chyfathrebu, a'r modd esblygol y mae ymgysylltiad cymdeithasol a chyfathrebu yn newid, yn enwedig o ran y ffurfiau cyfathrebu tameidiog sy'n gwrthdynnu'n barhaol ar ffurf memynnau, trydariadau a dulliau cyfryngau cymdeithasol eraill o'r un fath.
Yn y pen draw, mae pob llais yn cydweddu, ac yn cydgordio i rannau o'r un gan, llais a rennir ar batrwm cyfarwydd cytgan a phennill. Mae Cardew yn mynd a thechnolegau sy'n ymddangos yn artiffisial ac yn hirbell iawn ac mae'n darganfod eu bod yn rymus, gan ddod o hyd i rywbeth sy'n ddynol ac yn fregus iawn ynglyn ag angen i gysylltu sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn.
Mae argoelion a rhagarwyddion yn dibynnu ar batrymau, ar ein tybiaethau ynghylch achos ac effaith, dymuniad i ddod o hyd i drefn a gwneud rhagfynegiadau. Mae'r rhagamcaniad hwn yn rhan o oroesi - ffordd o wneud synnwyr o ansicrwydd y dyfodol. Rydym bob amser yn edrych am y cyswllt rhwng pethau, neu’n eu trefnu yn ol achos ac effaith, hyd yn oed pan fo'r dystiolaeth yn ein harwain i edrych yn rhywle arall.